Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mair, Siôn Gruffydd; y maent ymhell iawn oddi wrth y naill a'r llall."

Ai e, John Jones?" ebe Siôn, â'i law ar ben ei raw, ac erbyn hyn dechreuasai Siôn roi i mewn i'w chwant farus, ac ebe fe:

"Oes gynnoch chi ddim blewyn bach o faco efo chi, John Jones?"

"Wel oes, Siôn Gruffydd," meddai fy nhad, a thynnodd yr hen flwch corn allan o boced ei wasgod, ac agorodd y blwch, a rhoddodd i Siôn Gruffydd y cyfan a feddai.

Heb oedi, dyma'r hen getyn du allan, a'r hen Siôn bron marw o eisiau mygyn yn ei llenwi, ac wedi ei llenwi dyma'r cwestiwn yn codi'n naturiol: "Oes y fath beth â matsen yn digwydd bod yn eich meddiant?'

"Wel, mi edrychaf," ebe fy nhad, a thynnodd un allan o boced ei wasgod. Taniodd hi ar ei flwch baco a rhoddodd dân i'r hen ŵr.

Wel, dyna hen danio wedyn, a'r mwg yn torchi i fyny'n fodrwyau, a llygaid Siôn yn gloywi, ac yn symud fel mellten, a 'nhad yn gwenu ar y mwynhad dedwydd, diniwed a sugnai o'r ysmygyn.

"Felly, yr oeddych heb ddim baco," meddai fy nhad.

"Oeddwn siŵr," ebe yntau, "ni chefais fygyn er canol dydd, a rhyw 'chydig bach iawn o faco ges i yr adeg honno. Yn wir, John Jones, yr oeddwn wedi mynd yn ddall o eisiau mygyn."

Chwarddodd fy nhad yn galonnog.