Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ie," ebe'r hen ŵr, â boddhad yn gwenu ar ei wyneb cyn gynted ag y cafodd gegiad o fwg, "ie, siarad yr oeddych am y sêr yna, onid e; y maent yn fawr iawn onid ŷnt? Mi debygaf fod y morwyr yna yn gwneud yn fawr iawn ohonynt, er, mwy na minnau, ni allant ddringo atynt, allan' hw', John Jones? Wn i fawr amdanynt chwaith, na'r lleuad o ran hynny, ond bydd yn dda gennyf gael eu golau i fynd a dwad o gwmpas y lle yma. Ar y seren fawr acw y mae'r llongwyr yn edrych, oeddech chwi yn ei ddweud ynte? Ac am y tair seren arall yna y soniech amdanynt, ni allaf ddirnad pam y geilw pobl hwynt yn Dair Llathen Mair "."

Tra siaradai, ymfodlonai yn ei galon wrth dynnu mwg drwy'r hen getyn du ei liw, ac ar adegau cuddid ei wyneb o'n golwg yn y mwg tew a du. Chwarddai fy nhad yn ei lawes wrth edrych ar yr hen ŵr yn ei foddio ei hun fel hyn, ac ni ddywedai air rhag torri ar ei ddedwyddwch. Rhyfedd yw gweled baco yn dylanwadu cymaint ar fywyd dyn yn y byd yma, onid e? Hebddo diffeithwch ydyw ei fywyd i'r dyn, ond pan gaiff flewyn o fyglys dyna'i holl fywyd yn gweddnewid. Dyma'n ddiau y peth a roddai fwyaf o fwynhad i'r hen gymeriad diddan yma o ddim ar yr hen ddaear y trigai arni.

Soniodd fy nhad lawer gwaith wedi hyn am yr amgylchiad, ac nid dyma'r tro olaf iddo fyned allan i'r maes â baco yn ei boced i ddiwallu'r hen Siôn Gruffydd, ac i'w wneud yn hapus yn ei hen ddyddiau.