Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Labrwr ydoedd Siôn Gruffydd, ac ni wyddai fawr am waith chwarelwr. Ymfudo i'r ardal a wnaethant, ond teulu tlawd ydoedd y teulu er bod yr ardal yn flodeuog iawn gyda'r fasnach lechi. Arferai fy mam ddilladu'r plant â'r dillad a droesid heibio gan fy mrodyr. Er yn dlawd dyma fechgyn geirwir a gonest, a gwerthfawrogai fy mam hyn yn fawr iawn. Byddai Wiliam, Wil y Siop fel y gelwid ef, yn aros yn ein tŷ ni yn barhaus, a byddai Huw yn swyddog pwysig yn y cyfarfodydd a gynhaliai fy mam yn y tŷ i hyrwyddo dirwest a glendid moes ymysg y to a godai. Gwnaeth y cyfarfodydd fwy o les yn yr ardal na nemor ddim arall i gael enw priodol dyn iddo, a gwreiddiodd bechgyn y chwarelau raddol yn o'u hieuenctid yn naear fras dirwest a llwyrymwrthodiad, fel y tyfasant yn brennau talgryf mewn cymdeithas, a buont yn gysgod a lloches ddiogel i'w plant ar hyd eu hoes. Nid aeth un o bob deg o fechgyn Talysarn ar gyfeiliorn, er crwydro a chrwydro, a phriodolir hyn yn ddiamheuol i gyfarfodydd dirwestol fy mam. Arferai Huw Gruffydd eistedd yn y gadair gongl gyda myffler fawr am ei wddf, â golwg dduwiol iawn arno. Magodd hyn yr enw "Huw y Sant " ymysg plant y pentref, ond yr oedd Huw yn fachgen da, cywir ac onest.

Ond at y fam yr oeddwn am gyfeirio. Un o halen. y ddaear oedd hon, a phereiddiodd fywyd yr ardal y trigai ynddi yn gyfangwbl, a pherchid hi gan bawb, er ei thlodi. Bwytâi fara sych cyn yr elai i ddyled neb, a gwnaeth hynny lawer gwaith i gadw ei