Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chymeriad ac i fyw esiampl i'w phlant a'i chyd-bentrefwyr. Hen arferiad annwyl a ffynnai yr adeg honno oedd galw yn y seiat, enwau'r aelodau eglwysig allan ar goedd, fel yr elai pob un wrth alwad ei enw â'i gyfran i'r casgliad at y weinidogaeth. Rhoddid darn llydan o bren, fel bwrdd, ar ymyl y sêt fawr, a delid ef gan ddau flaenor. Galwai un ohonynt yr enwau allan, a chymerai'r llall yr arian, a chroesai'r enwau oddi ar y gofrestr. Byddai Catrin Gruffydd, yr hen fam dduwiol, yn ofalus dros ben i ddyfod â'r ddwy geiniog i'r casgliad bob mis. Galwai'r ysgrifennydd allan, "Catrin Gruffydd, Tŷ Newydd." Yna codai hithau o'i sedd, â hen het hen ffasiwn am ei phen, gyda mantell fawr amdani, a dwy glocsen ddel am ei thraed, a chyda llais gwylaidd dywedai wrth estyn ei dwy geiniog: Croeswch.'

Eisteddem ni fel teulu ychydig oddi wrthi, a hoeliedig fyddai llygaid pob un ohonom arni pan gludai ei dwy geiniog olaf i wasanaeth ei Gwaredwr ar hyd llawr cerrig yr hen gapel. Hoffem sylwi ar ei dwylo caled, coch, wedi eu hanffurfio dan effaith y gwaith caled a wnâi er ei bywoliaeth, yn estyn y ddwy geiniog i'r trysorydd. Nid unwaith na dwywaith, nage, nid dengwaith chwaith, y cyfeiriodd fy mam ein sylw fel plant at y rhodd fawr a gyfrannai Catrin Gruffydd. Dywedai wrthym yn ddifrifol: "Welwch chi Catrin Gruffydd â'i dwy geiniog? Dywedaf i chwi ei bod yn rhoddi mwy o lawer na ni i gyd."