Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yfed, a phan ddygwyd ef iddi, dywedodd: "O diolch byth nad yn uffern yr oeddwn yn gofyn amdano." Teimlwn, wrth feddwl amdani: "Y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt."

Euthum i edrych yr hen gapel y cariodd Nanws y trawstiau i'w adeiladu, ac O! y fath gysegredigrwydd ar y llecyn o'r ddaear y bu presenoldeb yr Arglwydd yn eu plith. Yr hen lawr wedi ei orchuddio â brwyn am fod y llawr pridd mor wlyb. Yr hen ffenestri bychain yn aros fel cynt. Yr hen gwpwrdd derw lle y cedwid y gwpan ddi-addurn i'w defnyddio i gofio angau ein Gwaredwr. O! y wledd i mi oedd cofio a myfyrio amdanynt. Nanws yn ei lludded â'i dwy glocsen yn cerdded oddeutu dwy filltir i'r hen gapel bach diaddurn. Ie, ond dyna a osodai ogoniant ar y gwasanaeth, fod Duw yno gyda'i bobl. Yn wir, George, teimlwn yn y lle fel pe buaswn yn y Santeiddiolaf, fod y presenoldeb Dwyfol yno. Dyna, mewn gwirionedd, sydd yn rhoddi bri ar addoldai, nid eu gwychder, nid maint cyfoeth y swyddogion, na sain beraidd eu musical instruments. Beth a gyfansodda addoliad ac addoldai cymeradwy gan Dduw? Trueiniaid tlodion yn gwir addoli, mewn symledd a pharchedig ofn.

Bob parch i Nanws yn ei chlocsiau a'i becwn stwff. Mi ddywedaf fel fy nhad, "O! am feddiannu'r un fath stamp o grefydd â mam a Nanws."

Daeth eich mam ddydd Gwener. Aethom heb ymdroi i fyny i Gwm Penamnen, ar hyd yr un llwybr ag y cerddodd ein hen gares Angharad James ar