Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyd-ddo flynyddoedd yn ôl. Daethom hyd at Glwt y Dawns ar y llaw chwith inni. Yr oedd talp anferth o graig, tua chwe llath o'r ffordd, â'i hwyneb yn wastad. Yno yr eisteddai'r feistres tra fyddai'r morynion yn godro yn y cae bychan gerllaw, lle y gwelir sydd wedi ei amgylchu â gwal isel. Yno deuent â'r cunogau ar eu pennau yn cynnwys y llaeth, a dodent hwy i lawr mewn lle cyfleus, ac yna dechreuai eu meistres ganu'r delyn a dechreuent hwythau ddawnsio bob dydd ar eu ffordd adref o'r fuches.

Aethom ymlaen nes dyfod at hen Blas Angharad James.[1] Yr wyf yn cofio darnau helaeth ohono, pan euthum yno flynyddoedd yn ôl, ond heddiw wedi diflannu, ag eithrio ôl yr hen simdde fawr. Yn y tŷ sydd agosaf ato y bu cyfnither imi'n byw. Cefais de ganddi. Y mae wedi myned i America ers blynyddoedd.

Dydd Sadwrn disgynnai'r glaw fel pe buasai cwmwl wedi torri, a chan ein bod ar derfyn dwy afon, fe chwyddai'r dwfr ynddynt yn ofnadwy. Llanwai nid yn unig wely'r afon ond y caeau a'r dolydd fel môr. O! yr oedd rhyw fawredd ofnadwy yn yr olwg arnynt.

Y dydd Saboth gwyddoch ein hanes.

Y dydd Llun aethom i Berth Eos[2]—gyda'r trên i

  1. Gweler ei hanes yng Nghofiant David Jones Treborth. Trigai yn "Y Parlwr," Cwmpenamnen, yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac mae peth o'i barddoniaeth gywrain ar gael. Yr ydoedd yn nain i fam John Jones.
    Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
    Angharad James
    ar Wicipedia
  2. Cartref Elinor ach Rhisiart, mam John Jones.