Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hoyw ag arfer yn ystafell y bardd—yn goleuo preswylfa'r llyfrau gyda'i "onest wên;" y mae yr ymgom mor gartrefol, mor naturiol. Ac y mae yr awgrymiadau o alar mor swynol yn eu murmuron dystaw—fel anadliad breuddwydiol yr hwyrnos ar ddail y ffawydden.

Chwarddasom lawer, a thaflasom wawd
Ar ffug-alaru am y brawd a'r brawd:—
Glan Alun anwyl, 'rwy heno'n dlawd!

Tylotach wy'n teimlo, beth bynag a'm gỳr:
Trist-drymach, unicach, a'm calon a dỳr:
Glan Alun, fy nghyfaill, mae rhywbeth yn fyr!

Ond annghofir y lleddf-ddaroganiad gwylaidd gan mor frwd yw y gyfeillach yn nghanol y llyfrau. Mor ddeheuig y mae hanes bywyd Glan Alun yn cael ei adrodd wrthym—a ninau fel heb wybod mai bywgraphiad y marw ydyw! A phan gyrhaeddir y dadleniad, y mae y sydynrwydd yn cael ei liniaru gan ledneisrwydd arferol Ceiriog:—

Paham y twyllaf fi fy hun!
Myfi, myfi yw'r unig un,
Heblaw aderyn bychan llon,
Sydd yn y 'stafell ddistaw hon!

Presenoldeb yr "aderyn bychan llon:"—pwy ond Ceiriog feddyliasai am goffhau hyn?

Er fod lliw annheilwng y gyfeddach ar y "Cyf—oedion Cofadwy," nis gall anafu ei newydd-der barddonol. Yr un lledneisrwydd cynhwynol sydd yma eto yn cadw y bardd rhag gwneud y du yn rhy ddu. Yr ydym fel wedi ein trosglwyddo yn sydyn i oes y Mabinogion, pan glywir y "cnoc bach ar y drws," a phan welir " ysbryd rhyw ferch ar y palmant:"

Mae ei gwisg fel yr amdo a i gwyneb yn gudd,
Ac nis gall dyn marwol ei gweled