Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

freuddwydiaeth wanwynol y galon; y mae y bardd —yn ol arfer pob carwrfardd o ddechreuad llenyddiaeth yn darllen pobpeth yn ngoleuni y "llygaid duon hardd" sydd wedi ei ddyrysu. Y mae yn ei gweled hi yn y meillion, y briallu, a'r rhosynau—yn yr heulwen a'r sêrgân; ac er mor gariadus yw y seren hwyrol rhwng glâs y nef a glâs y môr,

I fenaid, Myfanwy, goleuach, O tecach wyt ti!

Anwylach, perffeithiach wyt ti!

Yn ei afradlonedd anfeidrol a hollol ddiangenrhaid, y mae yn barod i fathru llawryf anfarwoldeb—"os na chawn i di!"—yn debyg, gellid tybied, i Orpheus gynt yn gadael y "copâau gwynion" a'r lle yn mhlith y duwiau er mwyn ei gariad ferch Eurydice. Y mae y bardd hefyd yn llawn o ofergoeliaeth serch gwyryfol, yn credu yn ei galon

fod ysbryd eill sibrwd â thi—
Eill dd'wedyd y cwbl i ti!

Ac nid yw Myfanwy nemawr nes yn mlaen mewn bydolrwydd. Y mae gwiriondeb y bardd yn ei gwirioni hithau; a'i chalon yn myned i deimlo yn lled drafferthus. Wrth ddarllen y gân, y mae yn ceisio gwneud "nodiadau ar ymyl y ddalen": ond fel mewn rhai esboniadau eraill, nid ydynt yn fawr o gymhorth i ddeall y testyn.

Disgynodd ei llygaid drachefn
Arna bawn yn awel o wynt
Yn crwydro trwy ardd Dinas Brân,"—
A churodd ei chalon yn gynt.
"Mi droellet fy ngwallt—
O, mi wnaet! wyt hynod garedig," medd hi,
A phe bawn yn suo i'th glust, mi dd'wedwn
Mai gwallgof wyt ti;
Mi hoffet. gael cusan, mi wnaet
Ond cymer di'n araf, fy ffrynd,"—
Hi geisiai ymgellwair fel hyn,—
Ond O!'roedd ei chalon yn myn'd!