Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymwelwodd ei gwefus—ei llygaid droi'n syn,
Rhy floesg oedd i roddi cynghorion;
Fe'i clywais er hyny yn sibrwd fel hyn,—
Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Erys y geiriau yn ffurfafen bywyd fel seren newydd, anniflan nid oes un gallu moesol gwaharddiadol cryfach o fewn i gylch cydwybod:—

Pe mellten arafai nes aros yn fflam,
I'm hatal ar ffordd annuwiolion,
Annhraethol rymusach yw awgrym fy mam,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.'

Dyna dlysni serch—dyna rymusder awen,

Pennod 10.

Bu y delyn Gymreig am ganrifoedd hirion heb hamdden i nemawr ddim ond Rhyfel a Chlod. Ond wedi i'r genedl golli ei hannibyniaeth, rhaid fu i'r delyn ddysgu cerddoriaeth arall, fwy tawel, fwy caruaidd. O'r dydd hwnw yn mlaen ni chafodd y delyn fawr o hwyl i enyn yspryd rhyfel a chanmol y gloyw gledd,—oddieithr am dymhor byr, pan fflachiodd dewrder Owen Glyndwr fel goleuni gwib-seren ar wyneb ffurfafen ei wlad.

Old times were changed, old manners gone!

A phwy a fynai alarnadu ar eu hol? Mwy cyd-naws â gwareiddiad oesau diweddar yw dalen werdd yr olewydden nag edyn creulawn y ddraig goch; ac y mae trydar yr ysguthan yn y glasgoed, a phenill yr ehedydd " yn llunio cerdd uwch ben llwyn cyll," wedi dyfod yn fwy cynefin na llais y gigfran uwchben celanedd dynoliaeth. Y mae clod