Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bardd fod yn chwedleuwr o flaen dim—ac yn fardd heb yn wybod iddo ei hun. O holl gynyrchion baledol Ceiriog, y mae un yn rhagori cymaint nes sefyll allan yn eu plith fel Saul yn nghynadledd Israel. Hono yw "Mae John yn myn'd i Loegr." Nid oedd eisiau i'r awdwr ein hysbysu "mai ychydig iawn o ddychymyg sydd ynddi—ond fy mod yn dweyd fy mhrofiad oreu gallwn."

Nid y bardd swyddogol sydd ynddi—ond calon bachgen. Canwyd hi fel heb yn wybod i'r bardd, ond nid oes eisiau i'r bardd fod â chywilydd ei harddel. mae athrylith y galon yn aml yn enill buddugoliaeth, lle y mae athrylith y meddwl yn methu er taer geisio.

Baledau cysegredig y gellid galw amryw o'i ganeuon eraill; fel "Y Fenyw Fach a'r Beibl Mawr," "Y Baban Diwrnod Oed," "Lisi Fach," a "Drws y Nefoedd." Anhebgor cân gwerin yw fod y werin yn ei hoffi ac yn cymeryd meddiant ohoni. Y mae Cymru wedi gwneuthur caneuon cysegredig Ceiriog yn eiddo personol iddi ei hun.

Dosbarth arall eto o'i ganeuon chwedlonol yw y traddodiadol, gyda moeswers i ddiweddu y gân: megys "Ffynon Llanddwynen," "Ffynon Elian," a "Llys Enfys Afon," ac amryw eraill. Hoff waith Glasynys oedd diweddaru hen draddodiadau ac y mae y ddau fardd wedi cerdded yr un llwybr fwy nag unwaith. Heblaw fod y ddau wedi canu am Myfanwy Fychan," y mae y ddau wedi canu am Dafydd y Gareg Wen,"—fel hefyd y mae Syr Walter Scott wedi gwneud. Y mae y tair cân yn wahanol, ac yn rhagori mewn cyfeiriadau gwahanol. Y mae cân y bardd Albanaidd yn ddillyn ac yn ddiwylliedig; ond gwell genym gynyrchion y ddau fardd Cymreig, am eu bod yn fwy tyner, a swn ysbrydoliaeth yn fwy peraidd ynddynt. Pe gofynid pa un o'r ddwy gân Gymreig sydd well genym,