o ganeuon bychain Ceiriog. Deuant yn ol ir meddwl drachefn a thrachefn mor ddiymhongar ac mor agos at y teimlad nes tawelu twrf dychymygion lawer.
Yn ymyl y tair cerdd uchod y mae hanes—gân "Syr Rhys ap Tomos" yn lled eiddil a difywyd. Y mae yr ystori yn rhy wasgarog; ac eithriad yw cael ynddi farddoniaeth afaelgar, heblaw yn y ddwy gân "Erddygan Win Burgundi" a "Chadlef Morganwg." Y mae yn dechreu ei hanes yn rhy bell yn ol er mwyn y digrifwch am garu plentynaidd Rhys ac Efa; ac nid oes un testyn arwrol grymus yn rhedeg trwy y gân i roddi unoliaeth iddi. Prin y gellid cael gwell arwr Cymreig na Syr Rhys: ond ymddengys i mi fod Ceiriog wedi rhwymo ei awen wrth gerbyd araf yr hanesydd, yn lle gadael iddi wneud llwybrau awyrol i'w hadenydd euraidd.
Cyn tewi son am y Rhiangerddi a'r Bugeilgerddi, dylid gwneud cyfeiriad at gerddi eraill o eiddo Ceiriog ar gyffelyb ddull: sef "Gwarchae Harlech," "Tywysog Cymru," a "Merch y Llyn." Y mae yn anhawdd beirniadu y cyfansoddiadau hyn, gan fod y bardd i raddau yn aberthu ei hun i'r cerddor ynddynt. Digon yw dweyd eu bod wedi eu hysgrifenu yn ofalus, ac fod "Merch y Llyn" yn enwedig yn dangos fod y bardd yn cadw ei ddychymyg yn rhydd. Wrth basio, anhawdd peidio dadgan gofid i Ceiriog gyhoeddi dim o'i farddoniaeth Seisnig. Y mae Oriau'r Haf—lle y ceir "Cantata Gwarchae Harlech "—wedi ei britho—â phethau Seisnig. Ni wnaeth awdwr erioed fwy o gamsynied: ac ni ellid gwneud mwy o annghyfiawnder âg athrylith y bardd na dangos y pethau hyn i lenor Seisnig, a dweyd—"Dyna engraipht o Ceiriog!"
Ai nid dyddorol, wrth gymharu yr holl gerddi hyn, yw sylwi ar rai o hoffderau dychymyg y bardd?