edd natur yn brydferth i'r awen sydd yn ngolwg y 'dyffryn tywyll, garw."
Goed yr Hydref, ni bu enfys
Yn ymblethu gyda'r wawr,
Gyda lliwiau mor fawreddus
A'ch pelydrau chwi yn awr
Sut na welem hyd y dyffryn
Gôr adeiniog ar ei hynt?
Sut na chlywem un aderyn—
Un o'r mil a ganai gynt?
Dyna olwg Hydref y tuallan, a dyma'r adlewyrchiad o fewn y meddwl:—
Goed yr Hydref! dyna gwestiwn
I fy awen fud fy hun,
Nid oes ganddi gân na byrdwn
Anthem newydd—nac oes un;
Penau'n britho, brigau'n gwywo,
Gwarau crwm a gwelw wedd,
Sydd o'm hamgylch yn prysuro
Tua gauaf oer y bedd,
Dyna'r diwedd? Na, nid dyna'r diwedd i ddychymyg gobeithiol Ceiriog. Y mae yn codi ei lygad oddiar bennod yr Hydref, i gael golwg un-waith eto ar y "Gwanwyn mawr yn dod cyn hir," a gwyrddni dail ar frigau llwydion. Y mae yr awen yn cadw yn llednais hyd y tywyll ddyffryn.
Mor gryf oedd ei deimlad dros ddiweddiadau hapus, fel y mynodd ychwanegu ôl-ysgrif ei ddychymyg ei hun at draddodiad "Merch y Llyn." Yn ol y traddodiad y mae y ferch hono yn diflanu am byth. o ganol ei phriod a'i phlant, yn achos y "tri ergyd." Ond myn Ceiriog i ail gymodiad ac ail briodas gymeryd lle. Pa eisiau prawf mwy o'i frwdfrydedd yn mhlaid y llon a'r hyfryd?
Yn hyn yr oedd Ceiriog yn iawn. Diau mai rhandir y bardd yw yr awgrymiadol yn hytrach na'r dyhysbyddol. Efe sydd i amddiffyn cysegredigrwydd gofid; ac i gadw'r llèn dros ffenestri trueni