Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dynol pan y mae llygad rhy haerllug am edrych i fewn. Ar adegau, gorfodir hyd yn nod y bardd i adrodd y gwir yn noeth. Yn mhlith caneuon Ceiriog, ceir un gân fechan sydd yn coffhau hanes John Evans o'r Waenfawr—" cenadwr ieuanc, llawn o ysbryd gwladgarol ac o sêl grefyddol * * yr hwn a ymgymerodd â'r gorchwyl mawr o fyned i eithafoedd America, i chwilio am ddisgynyddion. Madog, ac i bregethu yr efengyl iddynt. Dilynodd yr afon Missouri am 1,600 o filldiroedd, ond tarawyd ef â'r dwymyn, a bu farw yn mhell o'i fro enedigol, ac mor bell ag erioed oddiwrth yr Indiaid Cymreig." Nid oes modd cuddio yr elfen dorcalonus o'r fath hanes: yn unig gellir liniaru ychydig ohoni. I raddau y mae y bardd wedi llwyddo yn hyn; ond prin mor bell ag y gellid disgwyl. Dar—lunia'r cenadwr ieuanc wedi syrthio i gysgu yn nghaban y coediwr (ai fel hyny, tybed, y bu ein Goronwy fawr o Fôn farw?), ac yn breuddwydio ei freuddwyd fel arfer:—

Fe welai Frythoniaid, Cymraeg wnaent lefaru,
Adroddent eu hanes, deallai bob un:
Deffrodd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn,
"Pa le mae'r hen Gymry, fy mhobol fy hun?"

Dyna'r oll. Beth yn rhagor ellid ddweyd?—gofyna rhywun. Pobpeth. Pa le y mae yr agwedd ysbrydol o'r hanes? yn enwedig pan gofir fod Ceiriog wedi defnyddio'r ysbrydol mor aml er mwyn ysgoi gorbrudd-der y daearol a'r presenol— un oedd wedi cael "meddyliau am y nefoedd" ar lawer dalen gudd yn nghyfrolau natur—i un oedd wedi clywed ymdaith ddi-dwrf haulfydoedd yn "teithio tuag adref"—i un oedd wedi gweled "drws y nefoedd" yn gil-agored,—hawdd iawn fyddai tynu'r lleni yn ol am foment oddiar gyfrinachau dihalog y byd a ddaw, i ddangos y cenadwr ieuanc