yn deall gwasanaeth y Groes yn well yn ngoleu gwyneb Duw. Yr oedd alaw "Llwyn Onn". mesur y gân—yn gwneud y fath derfyniad dedwydd yn hollol weddaidd: oblegyd, fel y dywed y bardd ei hun, "fe gân yr alaw hon yn brudd ac yn llawen." Buasai y trawsgyweiriad barddonol o unigedd torcalonus y caban yn y coed i gymdeithas folianus yr ardderchog luoedd," yn gwneud y gân a'r gwirionedd yn gyflawn.
Pennod 14.
WRTH olrhain teithi amrywiol awen Ceiriog, gwelir yn eglur mai nid damweiniol ac achlysurol oedd ei ledneisrwydd; ond ei fod yn tarddu o ffynonellau bywiol o dynerwch. Prin y gallai un bardd fod yn fwy tyner wrth ddoluriau y galon. Yr oedd ei law fel llaw mam wrth gyffwrdd â'r blodeu oeddent wedi eu hysigo gan y gwynt, wedi eu curo gan y gwlaw. Ceir engreiphtiau o hyn mewn amryw ddyfyniadau ydynt yn barod wedi eu rhoddi; ond gan mai tiriondeb teimlad yw un o nodweddion amlycaf ei awen, y mae yn hawlio adran ar wahan.
Feallai nad yw yn addawol iawn i ddechreu gyda "sain anhynod." Ond anturiwn wneud hyny, trwy enwi "Ceffyl yr Hen Bregethwr." Y mae yn y gân hono lawer o bethau annymunol i chwaeth ddillyn —gormod o'r manwl, a rhy fach o'r awgrymiadol. Ond diau mai ballad y bwriedid hi i fod, ac felly rhaid myned drosti yn ysgafn. Beth bynag am hyny, y mae yn llawn o dynerwch, haner difyrus, haner difrifol. Prin y gwyddom pa un ai i chwerthin yn ddystaw ac yn araf, neu i—beidio