Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ap Gwilym ag yn arwrgerdd a chaneuon Hiraethog. Os mai ychydig yw y mynegiadau o'r teimlad hwn yn ngweithiau Ceiriog, y mae yr ychydig yn hollol yn ei le. Yn "Nghywydd Llanidloes"—er fod yr heliwr yn bresenol yn y bardd—ceir sylwadau pert, caredig, ar amryw o'r adar: fel y fronfraith, y fwyalchen, robyn goch, a siglen y gwys:—

Un fedr wrando ac edrych
Yn lled graff yw llwyd y gwyrch:
Chwaith nid yw'r dryw mor druan,
Ei wedd a'i gorph na fedd gân.

Clywodd y bardd gŵyn "yr aderyn caeth "—

Mae'r 'deryn yn fyw, a Rhyddid yn anwyl,
Gan adar y nef, a dynion y llawr:
Mae'r awyr yn lâs, a 'deryn yn ymyl,
Yn disgwyl ei frawd ir goedwig yn awr.

Ond y peth mwyaf swynol a wnaeth yn hyn oedd esbonio teimlad yr eneth fach yn y gân ar " Fugeil—io'r Gwenith Gwyn:

Eisteddai merch ar gamfa'r cae,
A'i phen gan flodeu'n dryfrith:
I gadw'r adar bach i ffwrdd
Rhag disgyn ar y gwenith.
Rhoi ganiatad i'r 'deryn tô,
A'r asgell fraith gael disgyn;
Rhag ofn ei fod yn eos fach—
A dyna deimlad plentyn.

Y gorchwyl anhawddaf, wrth ddilyn y bardd i diriogaeth ddynol, yw, nid casglu engreiphtiau, ond dethol. Gan ein bod eisoes wedi son am ei serch at blentyndod, a'i ddarluniau prydferth o gariad mam a thad, a'i frwdfrydedd o blaid y teimlad dynol, y mae y gwaith i raddau wedi ei wneud. Er mwyn ei wneud yn fwy cyflawn, dangosir yma ei dyner—wch mewn darnau neillduol yn hytrach nag mewn egwyddorion cyffredinol.