Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn hen ac unig ar ei aelwyd weddw! ac mor natur—iol yw swn "hen glychau Llanarmon" yn y trydydd penill, un o adgofion personol ardal y "Gareg Wen!"—

Fe welodd ei hun yn priodi
Genethig anwylaf y wlad:
Fe glywodd ei gyntaf anedig
Gan wenu'n ei alw fe'n "dad!"
Ni welodd ef gladdu ei briod a'i deulu
Na deilen wywedig yn disgyn i'r ardd—
Na, breuddwyd ei febyd freuddwydiodd y bardd!

Fe glywai hen glychau Llanarmon,
Yn fachgen fe deimlodd ei hun:
Breuddwydiodd hen deimlad y galon
Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn.
Ni chofiodd ef helynt y dyddiau'r aeth trwyddynt,
Ond tybiodd fod pobpeth yn hyfryd a hardd—
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd!

Y mae awen y bardd wedi eistedd yn aml dan gysgod yr ywen yn nghwmni'r beddau, ac y mae rhai o'i seiniau melusaf wedi eu canu yn ymyl yr anfarwol len sydd yn cuddio'r byd a ddaw. Dyma eiriau toddedig "Y Fam Ieuanc," wrth farw a gadael ei baban bychan ar ol:—

"Fy nghyfaill bychan newydd
'Rwyf fi yn myn'd i'r nef:
'Rwy'n myned at yr Iesu,
Hen gyfaill ydyw Ef!"
Bu farw, ac hi wywodd
Fel blod yn ar y dail,
Gan ddweyd, "Fy machgen anwyl!"
Ac "Iesu!' bob yn ail.

Yn y gân ar "Flodeu'r Bedd" ceir mynegiant prydferth o'r caredigrwydd Cymreig tuag at gôf y marw—caredigrwydd sydd fel yn sibrwd yn y fynwent obaith yr adgyfodiad gwell!

'Does eisiau 'run gareg i ddangos y fan
Y gorphwys fy nghariad yn mynwent y Llan:
O'r dydd rhoed hi yno i huno mewn hedd,
Mae blodeu tragwyddol yn byw ar ei bedd.