Darllenwn y tudalen cyntaf gyda rhyw faint o ddigrifwch; ond y mae y drychfeddwl yn cael ei orweithio, ac yn troi yn ddiflas. Peth poenus iawn yw methu chwerthin, pan y disgwylir i ni wneud hyny. Y mae y sylwadau yr un mor darawiadol o berthynas i'r rhigymau ar "Ddyddiau Mawr Taffi."
Dwfr poeth a chambren,
Gwellt, gwrých, a blew:
A phawb yn rhyfeddu
Fod y mochyn mor dew.
Wel—" a phawb yn rhyfeddu" hefyd fod prif ganeuwr Cymru wedi trafferthu cymaint i ysgrifenu a chyhoeddi y fath wagsawrwydd. Y mae arabedd y llenor yn urddasol; ond nid urddasol peth fel hyn. "Elfen beryglus i'w chymeryd mewn llaw yw y gwrthun (the grotesque)," meddai Deon Church, "er fod iddi ei lle fel un o offerynau effeithiolrwydd barddonol." Methodd Ceiriog—mewn cwmni anrhydeddus, er hyny!—gofio bob amser roddi ei "le" i'r gwrthun, a'i gadw yno.
Fel engraipht o gynyg mwy hapus yn nhiriogaeth yr afresymol, gellid enwi "Swyddfa'r Gwlaw." Dyna gân a'i harabedd yn cydweddu âg urddas y llenor. Gwyddom mai ffugchwedl yw, a'i bod yn odidog o anmhosibl! Ond nid yw hyn yn ein blino wrth ei ddarllen: y mae deheurwydd y bardd yn peri i ni feddwl am foment na fu erioed beth mwy naturiol na threfnu'r gwlaw mewn cynadledd ar ben mynydd. Ac y mae y dadleniad yn hynod bert. Wedi i'r Derwydd benderfynu rhoi "tri mis o heulwen," a chloi drws ei dŷ, dyna'r drafodaeth yn dechreu:—
Sef dyn y felin ddw'r
Yn d od ar ei hynt, a
Dyn y felin wynt
Yn dod am y cynta'.