Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Awdl Dynyster Jerusalem.djvu/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Heirdd golofnau, eiliadau goludog,
Canpwyth cywreiniawl, cnapwaith coronog;
Gwnaed mewn dulliau y gwnïad mândyllog,
Wynebir ogylch â gwinwydd brigog:
Sypiau gawn o'r grawn yn grôg, gwyrddion ddail
I'r hynod adail eirian odidog.


O'r melynaur amlèni—roed yn wych
Ar hyd ei nen drosti;
Anfon ei lòn oleuni
Mae'r haul ar ei muriau hi

Ond O! alar a'n dilyn,
O'r wylo hallt ar ol hyn!
Holl Anian fyddo'n llonydd,
Na seinied edn nos na dydd;
Dystawed, na chwythed chwâ,
Ac ust! eigion, gostega!
Na fo'n dôd fynu i dir
Eildon o'r Mor Canoldir;
Iorddonen heb dwrdd enyd,
Gosteg! yn fwyndeg drwy fyd,
Na fo dim yn rhwystr imi,
Na llais trwm i'm llestair i.

Rhagwelaf drwy argoelion,
Na saif yr hardd ddinas hon,
Am hiroes yn ei mawredd,
Adfeilia, gwaela ei gwêdd !

Ger bron mae gwawr wybrenawl[1]—darlleniad
O'r lluniau rhyfeddawl;
A ddengys ei gwedd ingawl,
Lleiheir mwy yn llwyr ei mawl!

Ceir Anian oll yn crynu
A braw llawn, cryn wybr a'i llû;

  1. Yma cyfeirir at yr arwyddion rhyfedd a welid yn yr wybr uwch ben Jerusalem, sef byddinoedd yn ymladd â'u gilydd, &c. Y llinellau dilynol a gyfeiriant at yr arwyddion yn y Deml, &c., megys buwch yn dwyn oen! a'r llef a glywyd yn y Deml, &c. —GWEL JOSEPHUS.