Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Awdl Dynyster Jerusalem.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aruthr yw! hi[1] a wrth rêd
Er dangos ei chwerw dynged!
Ac O! lêf drom glywaf draw,
Hynod sŵn yn adseiniaw;

Yn awr darogana ryw drigienydd,[2]
Rhua drwy alar hyd yr heolydd,
Ac o'i ben "Gwae!" "Gwae!" beunydd—a glywaf,
Effro y sylwaf ar ei phreswylydd.

Ond Duw ar unwaith sydd yn taranu,
Ail swn llifeiriant ei lais yn llafaru;
Ei air gorenwog wna i'w mûr grynu
Geilw'n ddiattal y gâlon o'i ddeutu;
Ysa y farn y ddinas fu,—yn gref
Ofnadwy'r fanllef wna dewr Rufeinllu!
Do, rhagdraethwyd y rhwygiad i'r eithaf,
Gan Grist, ddwyfol, urddonol hardd Wiwnaf,
Gwir daw garw adwyth, gair Duw a gredaf,
Mwy ar Gaersalem, a mawr gûr, sylwaf;
Daw dydd yn wir, d'wedodd NAF—y dryllir
Már acw dernir ei muriau cadarnaf!


Maen ar faen yma yn hir fu—ond ow!
Andwyir, medd Iesu!
Dyma le gaed yn Deml gû,
Hon, och! welir yn chwalu!


Yn fuan y nodawl fan annedwydd,
Wiw, gysegredig a wisg waradwydd,
Gwaela ei chyflwr, gwelwch ei haflwydd;
Agos ei rhwygiad megys ar ogwydd,
Deffröa llid, a phâr i'w llwydd—beidio
Cyn ei malurio y cawn aml arwydd.
Y grasol Iesu a groeshoeliasant,
Am hyny gofid miniawg a yfant;

  1. Sef Anian.
  2. Un JESUS, yr hwn a lefai ar hyd yr heolydd, gan ddywedyd, "Gwae y Ddinas!" " Gwae y Deml!" &c., heb flino na chrygu am saith mlynedd.