A thynged daiar galed, a'i dirgeloedd,
Y naturiaethau hynota' a'r ieithoedd,
Rheolau 'r lleuad; yr haul a'r holl luoedd,
Creaduriaid gloewon crwydredig leoedd.
Tra hanesiol fu am y teyrnasoedd,
A'u treigliadau, eu tir, a'u goludoedd;
Mewn gwin odlau per am hen genedloedd,
D'wedai eu gwychion odidog achoedd.
Mwyn gain wawdydd, mynegai 'n odiaeth.
Am y derwyddon a eu medryddiaeth,
A'u haddas godiad i wiw ddysgeidiaeth,
Gan hoew nofio uwch eigion hynafiaeth.
Hanesydd a phrydydd ffraeth,
Gloew ddifeinydd celfydd coeth,
Gwiw a myg weinidog maeth,
Y dwyfol air disglair doeth.
A gwiw gain addurn gogoneddus,
F' eiliai lawenaf fawl haelionus.
O ei ddwys galon ddiesgeulus,
I Dduw nefolaidd yn ofalus.
Ei ganiadau gwiw a hynodol,
Enwawg o synwyr yn gysonol,
Ynt gyflawn o feriawn anfarwol,
A dewr hediadau awdurdodol.
Tudalen:Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain.pdf/11
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon