Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ffynon o werthfawr hoff enainteilwaith
Ni welwyd ei chymaint;
Tarddodd o hon (bron er braint)
Loew foroedd o lifeiriaint.

Pum mwy addysg pe meddwn,gwiw rinwedd,
Goronwy mynegwn;
Ei fawl haeddawl cyhoeddwn,
Ar hyd yr holl-fyd mawr hwn.

Drwy'r ddoniawl dra hardd Ynysgwiw arddel
Ei gerddi yr ydys;
Coelbrenau (lampau di lys)
I dori dadlau dyrys.

Telyn oedd yn ein talaith,a'i mesur,
A'i musig yn berffaith:
Ei gerddi gleiniawg urddwaith,
Blawd aur ynt, blodau yr iaith.

Pybyr abl iawn eryr bri blaenoriaeth,
Un dewri gyrhaedd hynod ragorwaith
Disglair, a dewis gadair dysgeidiaeth,
Campau a rhinweddau 'r awenyddiaeth.

Traethai Goronwy, trwy waith gwyrenig,
Am newidiadau mwya' nodedig:
Gwyddai gylchoedd y bydoedd gwibiedig,
A llewych y rhodau llacharedig.