Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AWDL

AR YR UN TESTYN GAN ELIWLOD:


GWNA WEN yn egnïawl,loew wisgi
Felysgerdd hiraethawl,
I ORONWY ŵr unawl,
Gynt o Fôn à gant wiw fawl.

Awdurol goffadwriaetho urddas
I arddwr Barddoniaeth;
Addurn ei Areithyddiaeth,
Oedd ffrwd o gynghanedd ffraeth.

Diwyd ydoedd yn deawr,o'i fynwes,
Wiw feini tra gwerthfawr ;
O'i law wen yn loew ei wawr,
Mewn munud daeth maen mynawr.

Ei genedl á ddigonoddalmariau,
Amêr-wawd á huliodd;
Mêl a Gwin llawn rhîn yn rhodd
O'i fronau á gyfranodd.