Llyw barddas uwch Horas hen,
A Virgil gynnil ei gan,
Er rhwysg Rhufein-feirdd a'u rhin,
Gwr o enw mwy G'ronwy Mon.
Bu yn hyddysg, arwyddfardd bonheddig.
Coffau hen dreigliadau dirgeledig
Brython, a'u hachau, raddau mawrŷddig.
Chwith, hylaw athraw, a'i chwe iaith lithrig,
Bod yn ei ol! byd anelwig! mwyach—
Yn iach! ni wys bellach hanes bwyllig.
Tlysach na gwawd Taliesinyw ei waith,
Neu araith Aneurin;
Mwy ei urddas na Myrddin,
Ac uwch Dafydd gywydd gwin.
Edrychais, ymdreuliais dro,
Am raddol gymmar iddo,
Trwy fawr gyrch—tra ofer ais:—
Ni welais:—traul anolo.
Ni bu Brydain geinwen heb radau
Yr awen fawrwyrth er yn forau,
A choffa hoenwawd i'w chyffiniau,
Gan dderwyddon; mwynion emynau,
A beirdd uniawn, ewybr ddoniauenwog,
Syw, aurdorchog, godidog deidiau.
Goronwy gwr hynod o'r pendodau,
Ebrwydd lafurwyr yn eu beirddlyfrau:
Tudalen:Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain.pdf/5
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon