Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

12. Gwawdodyn Hir.

Coeliaf, dymunaf, da y mwyniant,
Fawr rin Taliesin, fraint dilysiant;
Brython, iaith wiwlon a etholant
Bythoedd, cu ydoedd, hwy a'i cadwant
Oesoedd rai miloedd, hir y molant ;-Ner
Moler; i'n Gwiwner rhown ogoniant.


13. Byr a Thoddaid.

A dd'wedai eddewidion-a wiriwyd
O warant wir ffyddlon,
Od âi'n tiroedd dan y teirion,
Ar fyr dwyre[1] wir Frodorion,
Caem i'r henfri Cymru hoenfron,
Lloegr yn dethol llugyrn[2] doethion,
Llawn dawn dewrweilch Llundain dirion,-impiau
Dewr weddau Derwyddon.


14. Hira Thoddaid.

Llwydd i chwi, eurweilch, llaw Dduw i'ch arwedd[3]
Dilyth eginau, da lwythau Gwynedd;
I yrddwe's Dehau urddas a dyhedd.
Rhad a erfyniwn i'r hydriw fonedd;
Bro'ch tadau, a bri'ch tudwedd, a harddoch,
Y mae, wŷr, ynoch emau o rinwedd.


15. Hupynt Byr.

Iawn i ninau
Er ein rhadau
Roi anrhydedd
Datgan gwyrthiau
Duw, Wr gorau
Ei drugaredd.


16. Hupynt Hir.

Yn ein heniaith
Gwnawn gymhenwaith
Gân wiw lanwaith
Gynil, union;

  1. Esgyn
  2. Goleuadau: "llewyga gwawl y llugyrn ebe awdl "Gwledd Balsassar" Glan Geirionydd.
  3. Arwain, neu dywys.