Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3. Proest Cyfnewidiog.

Cawsom får llachar a llid,
Am ein bai yma'n y byd;
Tores y rhwym, troes y rhod,
Llwydd a gawn a llawn wellhad.


4. Unodl Grweca.

Rhoe nefoedd yr hynafiaid
Dan y gosp, a dyna gaid;
Llofr a blin oll a fu'r blaid—flynyddoedd,
Is trinoedd estroniaid.


5. Unodl Gyrch.

Doe Rufeinwyr, dorf, unwaith
I doliaw'n hedd, dileu'n hiaith,
Hyd na roes Duw Ion, o'i rad,
O'r daliad wared eilwaith.


6. Cywydd Deuair hirion.

Aml fu alaeth mil filoedd,
Na bu'n well, ein bai ni oedd.


7. Cywydd Deuair fyrion, ac—8. Awdl Gywydd ynghyd.

Treiswyr trawsion
I'n iaith wen hon,
Dygn adwyth digwyn ydoedd
Tros oesoedd tra y Saeson.


9. Cywydd Llosgyrnog, a 10—Toddaid ynghyd.

Taerflin oeddynt hir flynyddoedd,
Llu a'n torai oll o'n tiroedd
I filoedd o ofalon :
Yno, o'i rad, ein Ner Ion—a'n piau
A droe galonau drwg elynion.


11. Gwawdodyn byr.

Ion trugarog! onid rhagorol
Y goryw'r[1] Iesu geirwir, rasol ?
Troi esgarant[2] traws a gwrol,—a wnaeth,
Yn nawdd a phenaeth iawn ddiffynol.


  1. Darfu.
  2. Gwrthwynebwyr