Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

22. Gorchest y Beirdd.

Medriaith mydrau,
Wiriaith eiriau,
Araith orau,
wyrth eres.
Wiwdôn wawdiau,
Gyson geisiau,
Wiwlon olau,
lân wiwles.


23. Cadwyn fer.

Gwymp[1] odiaethol gamp y doethion,
A'r hynawsion wŷr hen oesol:
Gwau naturiol i gantorion
O hil Brython hylwybr, ethol.


24. Tawddgyrch Cadwynog.

O'ch arfeddyd[2] wŷch, wir fuddiol,
Er nef, fythol, wŷr, na fethoch:
Mi rof enyd amryw fanol,
Ddiwyd, rasol, weddi drosoch;
Mewn serch brawdol, diwahanol,
Hoyw-wyr doniol, hir y d'unoch;
Cymru'n hollol o ddysg weddol,
Lin olynol, a lawn lenwoch.


  1. Smart, trim, fair.-Dr. PUGH.
  2. Bwriad.