Prawfddarllenwyd y dudalen hon
TRI ENGLYN MILWR.
Yn ol yr hen ddull.
CYWYDD
AR ENEDIGAETH SIOR HERBERT, ARGLWYDD LLWYDLO,
Cyntafanedig fab ardderchawg Iarll Powys, 1756.[6]
[Am y gwreiddiol (Lladin) gweler tudal. 115; gweler hefyd LLYTHYRAU, tudal. 123, 126.]
MOES erddigan[7] a chanu;
Dwg in' gerdd dêg, awen gu;
Trwy'r dolydd taro'r delyn,
Oni bo'r ias yn y bryn,
O gywair dant, a gyr di
Awr orhoen i Eryri.
Dowch chwithau â'ch hymnau heirdd,
Ddiwair addfwyn Dderwyddfeirdd:
Ni cherdd a folianoch chwi
Dir angof, er ei drengi;