Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Prydyddwch, wŷr pêr diddan,
Anfarwol, ragorol gân,
Fel y cânt Corybantau
Y dydd pan y ganed Iau;[1]
Hawdd fodd i'w ddyhuddo[2] fu
O waith beirdd a thabyrddu.
Ganed i ninau gynnawr,[3]
Un a haedd gân, maban mawr!

Ein tynged pan ddywedynt
Bu wirdda gair y beirdd gynt;
Coeliaf, o ddyfnder calon,
Am yr oes aur eu mawr son.

Cynydd, y maban ceinwiw,
Hil mawrion, ŵyr gwychion, gwiw!
Cynydd, fachgen! gwên gunod,
I mi'n dâl am awen dôd.

Croesaw'm myd hefyd i ti,
Tirionwaed da rieni;
Gwrda fych, fel eich gwirdad,
A gwych y delych chwi'n dad!
A phoed i'w taid goflaidiaw
Eich meibion llon ym mhob llaw:
Ac yno boed rhwng gwiwnef
Gyd ddal a gofal âg ef.

Dengys, yn oed ieuangwr,
Tra fych a wnelych yn wr.
Ac ym mysg pob dysg y daw
Gweithred odidog athraw.
Os o hedd melys a hir
Lwyddiant y'ch gorfoleddir,
Neu os eirf iwch a wna son
A siarad yn oes wyrion,
Gwelwch, yn ol eich galwad,
Les dysg gan ofalus dad,
I ddilyn ffordd ydd elynt
Herbeirtion gwaew-gochion gynt;

  1. Jupiter.
  2. Heddychu.
  3. Penaeth.