O deg irdwf had gwyrda,
A gnawd[1] oedd, o egin da!
Nid oes gêl o'n disgwyliad
O'th achles a'th les i'th wlad.
Drwy ba orfod y codi—
Dylid aer[2] gan dy law di—
Pa esgar[3] pwy a wasgud?
Pwy wyra d'eirf? Pa ryw dud?
Duw wnel yt' roi Ffrainc dan iau,
Ciwdawd[4] rylawn hocedau;
Didwyll ar dafod ydyw,
Uthr o dwyll ar weithred yw:
Ciwed yw hon nas ceidw hedd,
Dilys y ceiff ei dialedd.
Diau na ladd rhydain[5] lew,
Adwyth[6] i dylwyth dilew;
Anog bygylog[7] elyn,
Afraid i Frutaniaid hyn.
Ai arwylion, oer alaeth
A fyn, giwed gyndyn gaeth?
Trychwaith a ddaw o'u trachwant,
O'ch o'r gwymp drachwerw gânt!
I'w llynges pond gwell angor
Na llu i ormesu'r môr?
Dan ddwylaw Prydain ddilorf[8][9]
Pa les a wna'u diles dorf ?
Torf yn ffwyr[10] gynt a wyrodd,
Torf anhy a ffy, a ffodd,
Ac a dâl â gwaed eilwaith
Ffrydiawg, am eu geuawg waith.
Os Sior,[11] oreubor, o rym
Rhyfelwyr, ac eirf Wilym,[12]
A âd ddim i do a ddaw
Deled bri Ffraine i'ch dwylaw;
Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/107
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon