Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYWYDD HIRAETH AM FON.

Ateb i Anerch Huw AP Huw'r Bardd,[1] o Lwydiarth Esgob, yn Mon, 1756.

[Adwaenir y Cywydd hwn fel un o gynyrchion goreu y Bardd. Sier fod ynddo frawddegau fyddant byw oesau lawer; a chryfach efallai nag a geir yn yr un o' gywyddau eraill.]

DARLLENAIS awdl dra llawn serch,
Wych enwog fardd, o'ch anerch,
A didawl eich mawl im' oedd.
Didawl a gormod ydoedd.

Ond gnawd mawl bythawl lle bo.
Rhyddaf i'r gwr a'i haeddo;
Odidog mi nid ydwyf,
Rhyw sâl un, rhy isel wyf,
Duw a'm gwnaeth, da im' y gwnel.
Glân Iesu, galon isel,
Ac ufudd fron, dirion Dad,
Ni oludd fy nwy alwad;[2]
O farddwaith od wyf urddawl
Poed i wau emynau mawl-
Emynau dal am einioes,
Ac awen i'r Rhen[3] a'i rhoes.
Gwae ddiles gywyddoliaeth,
Gwae fydd o'i awenydd waeth;
Dég Ion, os gweinidog wyf,
Digwl[4] y gweinidogwyf;
Os mawredd yw coledd cail,[5]
Bagad[6] gofalon bugail;

  1. Y BARDD COCH. Boneddwr yn byw ar ei dir ei hun ydoedd, gerllaw Llanerchymedd. Heblaw ei fod yn fardd adnabyddus, cyfieithiodd amryw draithodau o'r Saesneg. Yr oedd yn gyfaill mawr hefo'r Morysiaid a thrwyddynt hwy daeth i gydnabyddiaeth â Goronwy. Bu farw yn 1776, yn 83 oed.
  2. Sef Bardd ac Offeiriad.
  3. Enw ar y Goruchaf.
  4. Diwael.
  5. Corlan.
  6. Lluaws.