Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dau gydgwys, gymhwys gymhar,
Un wedd ag ychen yn âr.
Cafed ym Mon dduon ddau,
Un Robin[1] edlin odlau,
A Gronwy[2] gerddgar union,
Brydydd o Benmynydd Mon.
Mae Alaw[3] Mae Caw?[4] Mae cant?
Mae miloedd mwy eu moliant?
Pwy a rif Dywod Llifon?[5]
Pwy rydd i lawr wŷr mawr Mon?
Awenyddol iawn oeddynt,
Yn gynar, medd Ceisar, gynt.[6]

Adroddwch, mae'r Derwyddon,
Urdd mawr a fu'n harddu Mon?
I'r bedd yr aethant o'r byd,
O'ch alar, heb ddychwelyd.
Hapus yw Mon o'u hepil,
Ag o'r iawn had, gywrain hil.

Clywaf arial[7] i'm calon
A'm gwythi, grym ym Mon;
Craffrym, fel cefnllif cref-ffrwd
Uwch eigion, a'r fron yn frwd.
Gorthaw,[8] don, dig wrthyd wyf,
Llifiaint, distewch tra llefwyf:
Clyw, Fon, na bo goelion gau,
Nag anwir, fyth o'm genau;
Gwiried Ion a egorwyf,
Dan Ner, canys Dewin wyf:—

"Henffych well, Fon, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir:
Goludog, ac ail Eden,
Dy sut,[9] neu Baradwys hen:

  1. Robin Ddu o Fon
  2. Yr hen Goronwy Ddu o Fon.
  3. Dafydd Alaw, bardd, a brodor o Fon?
  4. Caw ab Geraint ab Erbyn, o'r Twr Celyn, ym Mon.
  5. Cantref ym Mon.
  6. Gweler Caesar's Commentaries, llyfr vi., pen. 13.
  7. Bywiogrwydd.
  8. Dystawa.
  9. Dy lun.