Disgwyl, a da y'm dysger,
Yn araf a wnaf, fy Ner.
Da ddyfydd Duw i ddofion
Disgwylied, na 'moded Mon;
Ac odid na cheiff gwedi,
Gan Ion, Lewis Mon[1] a mi :
Neu ddeuwr awen ddiell,[2]
I ganu gwawd[3] ugain gwell,
Lewis Mon a Goronwy,
Ni bu waeth gynt hebddynt hwy;
A dilys na raid alaeth
I Fon am ei meibion maeth;
Nac achos poen, nac ochi,
Na chŵyn, tra parhaoch chwi.
Brodir gnawd ynddi brydydd:
Heb ganu ni bu, ni bydd.
Syllwch feirdd o Gaswallon
Law-hir, hyd ym Meilir Mon;[4]
Mae Gwalchmai[5] erfai eurfawr?
P'le mae Einion[6] o Fon Fawr?
Mae Hywel[7] ap Gwyddeles—
Pen prydydd, lluydd a lles;
Pen milwr, pwy un moliant?
Enwog ŵr, ac un o gant,
Iawn genaw Owen Gwynedd,[8]
Gwae'n gwlad a fu gweinio'i gledd.
Bwy unfraint â'r hen Benfras?[9]
Gwae fe fyw, ei lyw a las.
Mae'r Mab Cryg oedd fyg pan fu
Ab Gwilym[10] yn bygylu?
- ↑ Lewys Morys.
- ↑ Diwall.
- ↑ Yr ystyr a roddid i'r gair gwawd hyd yn ddiweddar ydoedd mawl, clod.
Medd yr Archddiacon Prys:—Parod yw fy nghalon, O Dduw,
O parod yw fy nghalon;
Canaf it' a datganaf wawd
O fawl fy nhafawd ffyddlon - ↑ Meilir ab Gwalchmai.
- ↑ Gwalchmai ab Meilir.
- ↑ Einion ab Gwalchmai.
- ↑ Hywel ap Owen Gwynedd.
- ↑ Tywysog Cymru.
- ↑ Madog Benfras.
- ↑ Dafydd ap Gwilym