tharawiadol. Try allan i'r byd i chwilio am y "gêm gwerthfawr":—
Troswn, o chawn y trysor,
Ro a main daear a môr.
Ymwibia i bob cwr o'r greadigaeth, drwy dir a môr daear ac wybren, ond yn ofer :—
Chwilio ym man am dani,
Chwilio hwnt heb ei chael hi.
Pond tlawd y ddihirffawd hon,
Chwilio gêm, a chael gwmon.
Ond o'r diwedd, wedi ei siomi yn mhob man arall, daw o hyd i'r "gêm" a geisiai yn "Efengyl Duw." Mor odidog y gesyd allan olud y nef yn y llinellau hyn:—
Fan deg yw nef fendigaid,
Tlws ar bob gorddrws a gaid.
Ymfoddlona ei ysbryd ymofyngar yn Nuw:—
Dyma gysur pur heb ball,
Goruwch a ddygai arall,
"Gem" oedd y testyn; gêm hefyd yw y cyfansodd- iad arno. Pair darllen "Cywydd i Ddiawl" ini synu at allu calon i gashau, a medr awen i watwor. Amlwg yw fod yma ddau wrthrych dan lygad y bardd; y naill yn Satan ei hun, a'r llall, fel y bernir yn gyffredin, yn un o gydwladwyr Goronwy, â'r hwn y syrthiasai allan. Gallesid meddwl ei fod wedi dihysbyddu ei allu duchanol yn ei ddesgrifiad o ddiafol. Nid hawdd dychmygu diafol hyllach na hwn! Er hyny, pan ddeuwn at y llinellau a ddechreuant gyda—
Gŵr y sy', gwae yr oes hon,
Blaenawr yr holl rai blinion.
gwelir yn wahanol. Cymaint oedd dyfais a medr y bardd fel y gallodd wneud Satan yn foneddwr o'i gymharu â'r gŵr" y cwerylasai âg ef. Mor gyflym a deheuig y teifl y naill bicell ar ol y llall, fel y gorfodir ni i dosturio wrth yr hwn sydd yn nôd iddynt, yn fwy nag i edmygu yr hwn sydd yn eu bwrw. Y syniad mwyaf eithafol a goleddir fel rheol am ddyn drwg yw y dylid ei gyflwyno i Satan"; ond yr oedd Goronwy yn ddigon athrylithgar fel ag i feiddio cyng-