cynwys y symudiadau mwyaf medrus. Mor sydyn a tharawiadol y trydd oddiwrth degwch gwedd ei gariad i edliw iddi ei bod yn defnyddio ei harddwch i'w dwyllo, ac oherwydd hyny y dymunasai fod ei glendid yn llai:
Adwyth fod it', ddyn wiwdeg,
Ogwydd i dwyll â gwedd dêg.
Odid y canfu adyn
Chwidrach, anwadalwch dyn.
Y dyb gyffredin yw mai cywydd Y Farn Fawr yw gorchestgamp Goronwy; ac y mae yn debyg fod y dyb hon yn gywir. Yr oedd y fath destyn cyffrous â hwn yn gofyn am y nerthol a'r arswydlawn yn y portread o hono, yr hyn, yn ddiau, a gaed gan ein bardd. Cywir iawn, i'n bryd ni, y sylwa y diweddar Dr. Lewis Edwards-yn yr erthygl y cyfeiriwyd ati eisoes-na chymerodd Goronwy Owen yr elfen bersonol i fynu yn ddigon helaeth yn ngweithrediadau y Farn-nad ymwthiodd i fewn i feddyliau a theimladau gwahanol gymeriadau. Ac fel na ddarfu i'r bardd roddi nemawr o le i'r personol yn ei gerdd, ni threiddiodd i fewn at yr egwyddorion a roddent ystyr i'r "Ymweliad Mawr " ag y gelwid dynolryw iddo. Y canlyniad fu iddo. roddi i ni ddarlun mawreddog o'r olygfa ofnadwy, heb roddi i ni fawr o oleuni ar yr egwyddorion nad oedd yr olygfa onid gwisg iddynt. Ond yr hyn a wnaeth Goronwy, fe'i gwnaeth yn y fath fodd ag i hawlio iddo anfarwoldeb. Ond credwn, er hyny, fod ganddo gyfansoddiadau eraill ydynt, yn ol eu rhywogaeth a'u hansawdd, eu golygiad a'u gweithiad allan, yn agos iawn, beth bynag, i "Gywydd y Farn." Tra nad ydym yn tybio fod y cyfansoddiad ardderchog hwnw wedi cael gormod o sylw, dywedwn yn ddibetrus fod rhai o'i gyfansoddiadau eraill wedi cael rhy fychan, megys "Y Maen Gwerthfawr," "Y Cynghorfynt," "Y Nenawr," ac yn arbenig ei "Gywydd Ateb i Anerch Huw ap Huw "-lle y barddona ei hiraeth am ei anwyl Fon." "Dedwyddwch," mewn gwirionedd, yw testyn "Y Maen Gwerthfawr." Nid yw yn faith, ond y mae yn wir farddonol. Mae ganddo beth lled brin mewn cyfansoddiadau prydyddol Cymreig, sef golygwel (conception) barddonol: heblaw fod ei syn-. iadau yn odidog, a'i gynghaneddion yn naturiol a