Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"I'N chwaeth ni," ebai y diweddar Dr. Lewis Edwards, "mae canmawl barddoniaeth Goronwy yn un o'r pethau mwyaf diangenrhaid a allai fod, ac yn dwyn i'n cof yr hen ddywediad am baentio y lili." (Gwel Y Traethodydd, Ionawr, 1876, tudal. 77). Yn hollol felly ac nid ein hamean yn yr ychydig sylwadau hyn yw canmol, nac ychwaith feirniadu, gwaith y bardd, eithr yn unig alw sylw at un neu ddau o'i nodweddau. Diau y gwel. pawb a'i darlleno fod amrywiaeth cyfoethog yn nghyfansoddiadau Goronwy—yn codi i raddau helaeth o amrywiaeth cyfnodau oes a dadblygiad bywyd, cystal ag o'r amgylchiadau neillduol yr äi'r bardd drwyddynt.

Wrth gwrs, nis gallai awen Goronwy guddio ei hun pan ddechreuodd ysbrydiaeth wynfydig y "carwr," ei feddianu; ac y mae ei gywydd "Calendr y Carwr," yr hwn a gyfansoddodd yn y cyfnod hwnw, yn llawn o awenyddiaeth chwareus, ac yn addurnedig â'r gelfyddyd gynghaneddol fwyaf cain. Dyddorol iawn sylwi ar nwyfiant edmygol rhai o'r Prif—feirdd Cymreig wrth ganu i'r Rhyw Deg. Cymerer, er engraipht, Dafydd ab Gwilym, Dewi Wyn o Eifion, a Goronwy. Mae'n hysbys mai ei "Forfudd" gafodd oreu, ac agos y cwbl, o farddoniaeth D. ap Gwilym, Nid yw Dewi Wyn yn fwy hapus yn unman na phan yn nghymdeithas ei "Elen." A gwisgodd Goronwy rai o emau gwerthfawrocaf ei awen am ei "Fari fwyn;" a chredwn ef pan ddywed:—

Gwir yw i mi garu merch;
Trosais hyd holl ffyrdd traserch.

Desgrifia ei hun yn glaf o gariad, a'i fron wedi ei briwio:—

Wyf glwyfus, nid â gleifwaith,
Gwnaeth meinwen â gwên y gwaith.

Nid anfad—ddyn creulawn a frathodd ei galon â chledd, eithr gwên merch a'i trywanodd hi! A'r fath syniad barddonol a haner ymguddia yn y cwpled. nesaf:—

Teg yw dy wên, gangen gu,
Wyneb rhy dêg i wenu.

Beth mwy ellid ddweyd am degwch naturiol wyneb merch na bod yn amhosibl i wên ychwanegu ato? Mae y cywydd hwn yn llawn o bethau cyffelyb, ac yn