Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gronoviana allan, sef casgliad o'i farddoniaeth a'i lythyrau (yr olaf yn benaf o gasgliad Owen Williams o'r Waenfawr) o wasg John Jones, Llanrwst; a than olygiad ei fab, y Parch. Edward Jones, M.A., Ficer Llanrhaiadr-yn-Mochnant. Yr oedd Gronoviana yn taflu y Dyddanwch i'r cysgodion, fel y taflwyd Gronoviana, yn 1876, gan argraphiad rhagorol y Parch. Robert Jones, B.A., Rotherhithe. Pris y Dyddanwch (arg. laf) oedd 2s.; 2il arg. 3s. 6ch. ; arg. Llanrwst, 5s. 6ch.; arg. Rotherhithe, £1 10s. Yn 1877, cyhoeddwyd BARDDONIAETH Goronwy Owen mewn llyfr swllt, yn rhif 5 o Gyfres y Ceinion, yn y swyddfa hon; a'i LLYTHYRAU, tan olygiad yr Athraw Morris-Jones, M.A., yn 1895, fel rhif 18 o'r un Gyfres.

ISAAC FOULKES.