Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

penodwyd ef yn rector Llanandreas, a hyny gan. Raglaw-lywodraethwr Talaeth Virginia. Yn yr un ohebiaeth, gan ddyfynu o lythyr gor-wyr i'r Bardd a ymddangosodd gyntaf yn y Drych Americanaidd, 1875, dywedir farw o Oronwy yn nhŷ ei frawd-yn-nghyfraith yn Blandford, Virginia, fis Gorphenaf, 1769, a'i gladdu ar ei etifeddiaeth ei hun, yn swydd Brunswick, a bod pobl yn fyw yn 1840 allent ddangos. yr ysmotyn. Yn yr un ohebiaeth fyth, ceir rhestr o'i blant o'r drydedd wraig, pedwar mewn nifer, sef Jane, Richard Brown (taid P. A. Owen, awdwr y llythyr a ddyfynir), Goronwy, a John Lloyd. Mae'n amlwg fod P. A. Owen wedi cymeryd trafferth lawer i olrhain hanes ei hendaid clodfawr; ac yr oedd ganddo frawd o'r enw Goronwy Owen yn feddyg parchus yn Mobile, yr hyn a ddengys fod yr hen enw yn dal yn y teulu. Y newydd-beth rhyfeddaf yn llythyr P. A. O. ydyw'r copi a rydd o lythyr a ddanfonodd Goronwy at ei wraig oddiar ei glaf wely yn deisyf arni brysuro ato o'r blanigfa, os oedd hi am ei weled yn fyw; llythyr ydyw dyddiedig "Blandford, Sadwrn, Mehefin 24ain, 1769, i Mrs. Jeaney Owen, yn Brunswick, gyda'r bachgen negroaidd Daniel." Nid yw yn hawdd deall beth oedd a wnelai ef na'i briod â phlanigfa, na phaham yr oedd hi tan yr angenrheidrwydd o fyw ar y blanigfa.

Bu Goronwy, ei ail fab, o'r briodas gyntaf farw yn mhell o flaen ei dad, ond yr oedd Robert ei fab hynaf, yn fyw yn 1796. Y llythyr olaf o'i eiddo sydd ar gael yw'r un a ddanfonodd at Richard Morris gyda'r farwnad benigamp i Lewis Morris), ac a welir yn y LLYTHYRAU, 135.

Gwnaed aml gais i gyhoeddi barddoniaeth Goronwy cyn ei fyned i'r Amerig, a pharhaodd ei gyfeillion ar ol ei fyned i hyrwyddo'r amcan hwn; ac yn 1763, ymddangosodd tan y teitl canlynol:-

DYDDANWCH TEULUAIDD; y Llyfr Cyntaf; yn cynnwys Gwaith y Parchedig Mr. GORONWY OWEN, Lewis Morris Esq., a Mr. Huw Huws, etc., Beirdd Mon Mam-Gymru, ac aelodau o Gymdeithas y Cymmrodorion. O Gasgliad Huw Jones o Langwm, C.C.C. Llundain: Argraphwy gan William Roberts, Printiwr y Gymdeithas, M.DCC.LXIII.

Cyhoeddwyd ail argraphiad o'r Dyddanwch Teuluaidd yn Nghaernarfon, yn 1817. Yn 1860, daeth