Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

er dangos fod ochr arall i'r darlun a geir yn "Cywydd y Diawl." Ni chafodd bardd erioed ffyddlonach cyf- eillion na Goronwy yn y Morysiaid, waeth beth ddywed neb i'r gwrthwyneb.

Bu ddwy flynedd yn Northolt; a chan weled nad oedd ond gobaith gwan iddo byth am bersoniaeth yn Nghymru, penderfynodd dderbyn cynyg o £200 yn y flwyddyn am fyned i Williamsburgh, Virginia, fel athraw ysgol. Ond pa fodd yr oedd ef, ei briod, a'i dri phlentyn i gyrhaedd yno? Ugain punt a ganiatai'r llywodraeth at y gost. Apeliodd at y Cymmrodorion am help yn yr anerchiad a welir yn y LLYTHYRAU, 133; a chyfranodd Mr. Richard Morris ac ychydig o gyfeillion eraill iddo bum' gini. Dechreu Rhagfyr, 1757, hwyliodd yr hunan-alltudiedig a'i deulu o Lundain, nid, fel y dywed yntau, am wlad newydd ond am fyd newydd. Golygfa gyffrous oedd gweled yr hen Gymro gwladgar Richard Morris a Goronwy yn ffarwelio ar lan y Dafwys byth i weled eu gilydd mwy. Trial oedd enw ei long, ac ysgubion cymdeithas yn cael eu hel i'w halltudiaeth oedd ei gyd-fordwyaid, a'r capten yr adyn mwyaf ysgeler ohonynt. Felly y mae pob sicrwydd mai mordaith orlawn o annghysur a gafodd; ac yn ben ar y cwbl, bu farw ei briod hoff a'u bachgen ieuengaf cyn cyrhaedd yr ochr draw.

Nid llawer a wyddis o'i hanes yn Williamsburgh. Ond daeth newydd i'r wlad hon yn fuan ei fod wedi priodi drachefn; mai Mrs. Blayton, chwaer i Brifathraw y Coleg, oedd ei wraig; ac iddo ei cholli hithau wed'yn o fewn llai na blwyddyn i'w briodas. Hanes arall a ddywed ei fod yn bur lwyddianus fel athraw ond mai rum, yr hwn a ddyfethodd fwy na'r cleddyf, oedd. ei brofedigaeth; iddo ymadael â'r coleg tan dipyn o gwmwl-fe aeth i chwareu ystranciau direidus trwy anos myfyrwyr y coleg a llanciau'r dref i ymladd â'u gilydd, am yr hyn y diswyddwyd ef ac un o'r Proffeswyr. Nid yw'r newyddion hyn yn hollol gyson â'i fod wedi cael bywoliaeth plwyf St. Andrew yn yr un dalaeth, yn union, os nid cyn yr amser y dywedir iddo adael y Coleg. Mewn gohebiaeth ddyddorol sydd yn taflu llawer o oleuni newydd ar fywyd y Bardd yn yr Amerig, a ymddangosodd yn y Geninen, 1889, o waith Isaled, dywedir mai ar y 15fed o Fai, 1760, y