Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bu yn glaf iawn tan y cryd; ac Ebrill 17, bu farw ei unig eneth, yr hon oedd yn dra anwyl gantho." Archoll lem i'w deimladau tyner oedd ei cholli. Meddai mewn llythyr at Wm. Morris:—

Mae fy holl dylwyth i yma [Llundain] bod y pen, ond fy merch fach a fynai aros yn monwent Walton, o fewn deurwd neu dri at y fan y ganwyd hi.

Nid ydym yn sicr beth barodd i Oronwy symud i Lundain. Rhai a ddywedant mai bwriad y Cymmrodorion i godi Eglwys Gymraeg yn y Brifddinas; ac yntau yn awyddus am y gaplaniaeth, a daflodd guradiaeth Walton i fynu. Modd bynag, treuliodd rai misoedd yn Llundain yn segur; a dyna'r adeg y cyfansoddodd "Gywydd y Nenawr" (gwel tudal 85). Cyrhaeddodd Goronwy a'i deulu i'r Brifddinas ddechreu Mai, 1755. Ond siom oedd yn ei aros yno. drachefn. Methwyd cael eglwys i gynal gwasanaeth Cymraeg ynddi, ac nid oedd yno felly gaplaniaeth iddo yntau. Bu y Morysiaid ac amryw gyfeillion eraill yn dra charedig wrtho ef a'i deulu hyd nes agorodd drws ymwared yn mhen rhyw ddeufis neu dri trwy iddo gael curadiaeth Northolt, plwyf gwledig rhyw ddeuddeg milldir o Lundain. Ei gyflog yno oedd £50, a thy, a gardd helaeth. Rhwng pobpeth, gydag ychydig gynildeb a darbodaeth, gallasai fod yn ddigon clyd arno; ac felly yr oedd am gryn amser. Gwahoddai Lewis a Richard Morris i ymweled â Northolt gan addaw lletty cysurus a phorthiant gweddaidd i'w sefyllfa; a danfonodd "Gywydd Gwahawdd" godidog at "Parry o'r Mint." Ymroddodd i fyfyrio yn nhawelwch ei neullduedd, a thorai ar ddiflasdod y fyfyrgell trwy bysgota yn yr afon Brent gerllaw. Ond ymwelai'n achlysurol â'r Brifddinas, lle cyfarfyddai rai o'i hen gymdeithion, yr hyn a'i taflai oddiar ei echel yn lân a chollai bob llywodraeth arno ei hun. Yr oedd, er hyny, yn fôd mor frac a llawn o athrylith fel mai hawdd maddeu iddo. Nid oes le i gredu fod undyn wedi digio drwyddo wrtho ond Lewis Morris; ac ar dudal. 127 o'r LLYTHYRAU ceir awgrym gynil paham. Mae desgrifiad L. Morris o'r bardd, sydd yn dechreu, "I wonder how the poor d——l of an offeiriad," wedi ei ddyfynu ar yr amlaf, ac ni fuasem yn ei grybwyll ond