Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pan offeiriadai yn gynorthwyol, ac yn rhaid iddo ei chael i fod yn gurad Croesoswallt. Fe ddywed y Parch. R. Jones hefyd fod y Bardd yn un o athrawon Ysgol Ramadegol Croesoswallt.

Gadawodd Groesoswallt yn Medi, 1748, gan dderbyn curadiaeth Uppington, sir Amwythig, a chael gyda hyny y swydd o feistr ysgol fechan waddoledig yn Donnington, lle y trigianai. Ysgotyn calongaled a chribddeilgar oedd ei rector o'r enw Douglas, yr hwn a ddyrchafwyd yn olynol yn Esgob Carlisle a Salisbury. Gwaith anhawdd enbyd oedd dwyn deupen y llinyn yn nghyd yn Donnington. Tua £26 yn y flwyddyn a dderbyniai oddiwrth y ddwy swydd; ac yr oedd ei ofynion teuluaidd yn cynyddu. Flwyddyn wedi iddo fyned i'r porfeydd gwelltog hyn, ganwyd ei fab hynaf, Robert, y rhodd bert bach;" a deuddeg mis yn ddiweddarach, daeth iddo ail fab, sef Goronwy. Ond ymdrechodd y Bardd ei oreu i gadw ei ben uwchlaw'r dwfr, ac er amled ei ddyledswyddau, mynodd hamdden i ddysgu cryn lawer ar yr ieithoedd Syriaeg ac Arabaeg. Yma hefyd, yn nghanol Lloegr, y cyfansoddodd ei "Gywydd y Farn Fawr." Y mae'n cwynaw ei fyd yn dost,—a chwynwr doniol ydoedd. (Gweler LLYTHYRAU, tudal. 21,.)

Ond fel y dywed ef ei hun, "Po cyfyngaf gan ddyn, eangaf gan Dduw." Llwyddodd ei gyfaill, Wm. Morris o Gybi, i gael lle iddo fel curad Walton, ger Lerpwl, lle y dechreuodd ar ei orchwyl Ebrill 29, 1753. Yr oedd Walton o gryn lawer yn well iddo na Donnington, canys nid oedd lai ei gyflog yma na £35; heblaw tâl fel meistr Ysgol Rad o £13, a Thŷ'n y Fynwent i fyw ynddo.

Tua dwy flynedd fu hyd ei drigfan yn Walton. Yma ysgrifenodd y nifer luosocaf o'i lythyrau sydd ar gael a chadw. Dichon na fu ei awen firain mor gynyrchiol ag yn Donnington, a phriodola un o'r Morysiaid hyny i'w agosrwydd at dref fawr Lerpwl, a'r temtasiynau yr oedd yn agored iddynt trwy fynych gyfarfod capteniaid llongau a chyfeillion eraill o Gymru. Gwell genym ni gredu mai ei aml ddyledswyddau mewn plwyf mawr, y mynych wasanaethau i'w cyflawni yn Eglwys y Plwyf, a hyny heb gymorth y Rector glwth, fu'r prif achosion na chanodd yma gymaint ag a fuasid yn disgwyl. Yn gynar yn 1755,