Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mon, neu ryw ran arall o Gymru, yn niffyg Mon; llawer ochenaid drom esgynodd o'i fynwes, a deigryn hallt ddisgynodd o'i lygaid, am gael sangu yr "ardd wen." Ond bu pob ochenaid a deigryn, a chân a chywydd, o'i eiddo yn gwbl ofer. "Nid oedd y Bardd Du yn ddigon da," ebe rhai; "arno ef ei hun yr oedd y bai," meddynt. Hach! ac i ni gredu y gwaethaf am Oronwy, a'r goreu am ei gydoeswyr offeiriadol, yr oedd haner pwlpudau Eglwys Loegr yn Nghymru yn cael eu llenwi gan ddynion annhraethol waeth nag ef.

Hwn oedd argyfwng mawr bywyd y Bardd. Trodd ei wyneb tua sir Ddinbych, lle yr oedd rhai o deulu ei fam a fuasent garedig wrtho droion o'r blaen; a chyda hwy y bu yn llechu (gresyn na ddywedasai yn mha gwr o sir Ddinbych) nes y cafodd hanes curadiaeth yn ymyl Croes Oswallt; ac meddai (gwel LLYTHYRAU, tudal. 8) " tuag yno y cyfeiriais. . . Mi fum yn Gurad yn nhref Groes Oswallt yn nghylch tair blynedd, ac yno y priodais yn Awst, 1747."

Dywed y Parch. R. Jones mai curadiaeth Selattyn, plwyf tua dwy filldir o Groesoswallt, a gafodd, ond nid yw'r Bardd ei hun yn son am Selattyn o gwbl, hyd yn nod mai yno y priodwyd ef, yr hyn sydd ddiamheuol, fel y prawf y cofnod canlynol a godwyd o Register y plwyf hwnw:—

Mar. The Revernd Gronow Owen and Mrs. Elen Hughes both of Owaldstree were married 21st day [of August, 1747].

Ac wedi dechreu son am ei briodas, ni waeth gorphen Gweddw ieuanc oedd ei wraig, medd y Parch. R. Jones; merch i Mr. Owen Hughes, aldramon yn Nghroesoswallt, gwr lled gefnog arno; ond ni fu'r Bardd fawr elwach o hyny, fel y tystia yn rhai o'i Lythyrau. Dywed y Parch. Rossendale Lloyd, rheithor presenol Selattyn, ac i hynawsedd yr hwn yr ydym yn ddyledus am y copi uchod, fod y registers yn cael ei cadw yn annhrefnus yn y misoedd hyny oblegyd afiechyd y rheithor. Tybed fod Goronwy yn gweinyddu yn Selattyn pan fyddai'r offeiriad yn rhy wael? Yn ol Cofrestrau Llanelwy, Awst 8, 1747, y trwyddedwyd ef yn gurad Croesoswallt, a thranoeth (Awst 9) yr urddwyd ef yn offeiriad. Dichon ei fod yn rhy dlawd i dalu am drwydded