Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

helpu'r fam ymdrechgar tra bu hi; canys erbyn i'r bachgen orphen ei gyfnod yn Mangor, yr oedd ei fam wedi marw a'i dad di-lun wedi ail briodi. Nid oedd yno gartref mwy iddo ef; ac yr oedd yn gyfyng arno. Yn ei gyfyngder danfonodd lythyr Lladin at "Owen Meyrick o Fodorgan, Ysw.," yn dweyd ei hanes, ac yn apelio am ei gymhorth fel ymddiriedolwr dwy ysgoloriaeth yn Môn i gynal dau wr ieuanc yn Rhyd— ychen neu Gaergrawnt. Nid ymddengys i'w gais lwyddo, ar y pryd, beth bynag: a chawn ef yn nesaf yn athraw cynorthwyol Ysgol Ramadegol yn Mhwllheli. Yno yr oedd yn 1742, pan ganai ei "Latin Ode" i Mr. Richard Rathbone—gweler tudal. 114; a "Chalendr y Carwr," tudal. 18, er y dywedir mai tua 1743 y cyfansoddodd y cywydd hwnw. Mehefin 3, 1742, a hyny trwy gymhorth Edward Wynne, Ysw., o Fodewryd, derbyniwyd ef i Goleg Iesu, Rhydychen. Mewn cyfarfod o Ymddiriedolwyr "Elusen William Lewis," a gynaliwyd Medi 1, 1743—Owen Meyrick ac eraill yn bresenol—gwnaed yr archeb a ganlyn:—" Ordered that Gronow Owen, now of Jesus Colledge, Oxford, be, and is, hereby admitted to receive the said Charity in the room of Mr. Langford, who has received the same for five years." Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1745—nid yn Mangor na Llanelwy—mae sicrwydd am hyn; tybir mai yn Rhydychen. Yna, ac ini ddyfynu geiriau'r bardd ei hun, "fe ddigwyddodd fod ar Esgob Bangor eisiau curad y pryd hyny yn Llanfair Mathafarn Eithaf; a chan nad oedd yr Esgob ei hun gartref, ei Chaplain ef a gytunodd â mi i fyned yno." Yn naturiol iawn yr oedd hyn wrth fodd calon y clerigwr ieuanc cael myn'd i Fôn, i'w blwyf genedigol, ac i blith ei hen gyfeillion. Ond, "Ni cheir mo'r melys heb. y chwerw. Dyma lythyr yn dyfod oddiwrth yr Esgob (Dr. Hutton) at ei Gappelwr yn dweyd fod a young clergyman of very great fortune wedi bod yn hir daergrefu am ryw le yn yr esgobaeth, a rhaid oedd i hwnw gael y lle os dymunai."

Chwedl yntau, "Beth a wnai drwstan ?" Cefnu; beth arall? Ac o hyny allan, ni welodd ac ni throediodd ymylau Mon, nac un cwr arall o Gymru, onid unwaith, pan orfu iddo fyned i Lan Elwy i gael urdd offeiriad. Llawer cais a wnaeth am fywoliaeth yn