Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GORONWY OWEN

(BYWGRAPHIAD).


MEWN bwthyn distadl ar fin y Rhosfawr, yn mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Mon, y ganwyd Goronwy Owen, a hyny Ddydd Calan, 1722—Calan yn ol yr hen ddull, ond Ionawr 13 yn ol y dull presenol o gyfrif. Ei dad, Owen Goronwy, oedd eurych meddw a diddaioni, meddir; a'i fam, Sian Parri, yr hon, yn ol arfer gwlad yn ei hoes, a adwaenid ar ol priodi wrth ei henw morwynol, oedd wraig ddiwyd, ac yn helpu ei bachgen yn ei ymdrechion am wybodaeth. Rhedeg o'r, ac nid i'r ysgol, y bydd plant yn gyffredin. Yr olaf ddarfu'r bachgen Gronwy: neu Gronow, canys felly y sillebid ei enw ac y gelwid ef yn mhob gweithred gyfreithiol y rhan gyntaf o'i oes. A'r ysgol agosaf i Rhosfawr ar y pryd, meddir, oedd yn Llanallgo—pellder o ddwy filldir. I'r ysgol hono y rhedodd y bachgen, a buasai ei dad wedi ei guro, onibai i Sian Pari godi'r hwyl fawr. Felly, fe aeth y llanc yn mlaen gyda'i fyfyrion tan nawdd ei fam dlawd a chefnogaeth cymydogion yr oedd ei anian ryfeddol. i ddysgu wedi tynu eu sylw ac enyn eu hedmygedd. Y penaf o'r rhai hyn oedd teulu Pentref Eirianell— cartref Lewis, Richard, a William Morris—y "tri-mab o ddoniau tramawr," a'u mam, y "wraig ddigymhar Marged," y canodd y llencyn tlawd wed'yn y farwnad dlosgain iddi a welir ar dudalen 34 o'r llyfr hwn. Bu y Morysiaid yn dra charedig wrtho, ac anhawdd eredu y buasai genym Oronwy Fardd o gwbl oddieithr am y nawdd a gafodd ganddynt hwy. Cydnebydd y bardd eu haelioni mewn geiriau tyner a diolchgar, y rhai a welir yn ei Farddoniaeth ac yn wasgaredig hyd ei Lythyrau.

Wedi dysgu yr hyn oedd i'w ddysgu yn Llanallgo, aeth i Ysgol Ramadegol Bangor, lle y bu o 1737 hyd 1741. Y syniad cyffredin ydyw mai Lewis. Morris oedd yn talu traul yr ysgol, neu yn hytrach yn