CYWYDD Y MAEN GWERTHFAWR. 1753.
CHWILIO y bum, uwch elw byd,
Wedi chwilio, dychwelyd;
Chwilio am em bêrdrem bur,
Maen iasbis, mwy annísbur;
Hynodol em wen ydoedd
Glaerbryd, a Dedwyddyd oedd.
Mae (er Naf) harddaf yw hi,
Y gemydd a'i dwg imi?
Troswn, o chawn y trysor,
Ro a main daear a môr;
Ffulliwn[1] hyd ddau begwn byd,
O'r rhwyddaf i'w chyrhaeddyd;
Chwiliwn, o chawn y dawn da,
Hyd rwndir daear India,
Dwyrain, a phob gwlad araul,
Cyfled ag y rhed yr haul;
Hyd gyhydlwybr yr wybren,[2]
Lle'r a wawl holl awyr wen;
Awn yn noeth i'r cylch poethlosg,
Hynt y llym ddeheuwynt llosg.
I rynbwynt duoer enbyd
Gogledd, annghyfanedd fyd.
Cyrchwn, ni ruswn, oer ôd,
Rhyn, oerfel, rhew anorfod,
A gwlad yr ia gwastadawl,
Crisian-glawdd na thawdd, na thawl.[3]
Od awn i'r daith drymfaith draw,
Ofered im' lafuriaw!
Gwledydd ormod a rodiais,
Trwy bryder ac ofer gais,
Llemdost i mi'r bell ymdaith;
A phellaf, gwacaf y gwaith!
Chwilio ym man am dani,
Chwilio hwnt heb ei chael hi.
Nid oes dwr na dwys diredd,
Na goror ym môr a'i medd.