Da gwyr Iesu, deigr eisioes
Dros fy ngrân[1] drwstan a droes,
Pond tlawd y ddihirffawd hon,
Chwilio gem, a chael gwmon!
Anturiais ryw hynt arall
O newydd, yn gelfydd gall;
Cynull (a gwael y fael fau)
Traul afraid, twr o lyfrau,
A defnyddion dwfn addysg,
Sophyddion dyfnion eu dysg;
Diau i'r rhai'n, o daer hawl,
Addaw maen oedd ddymunawl—
Maen a'i fudd uwchlaw rhuddaur,
Maen oedd a wnai blwm yn aur;
Rhoent obaith ar weniaith wag
O byst aur, â'u bost orwag.
Llai eu rhodd, yn lle rhuddaur,
Bost oedd, ac ni chawn byst aur.
Aur yn blwm trathrwm y try,
Y mae son mai haws hyny;
Ffuant yw eu hoff faen teg,
Ffol eiriau a ffiloreg.
Deulyfr a ddaeth i'm dwylaw
Llawn ddoeth, a dau well ni ddaw:
Sywlyfr[2] y Brenhin Selef,[3]
A Llyfr pur Benadur Nef.
Deufab y brenhin Dafydd,
Dau fugail, neb ail ni bydd.
Gwiwfawr oedd un am gyfoeth,
Brenhin mawr, dirfawr, a doeth;
Rhi'n honaid[4] ar frenhinoedd
Praff deyrn, a phen prophwyd oedd.
Ba wledd ar na bu i'w lys?
Ba wall o b'ai ewyllys?
Ba fwyniant heb ei finiaw?
Ba chwant heb rychwant o braw'?
Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/64
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon