Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Drychiolaeth ddugaeth ddigorff,
Yngwyll yn dwyn canwyll corff;
Amdo am ben hurthgen hyll,
Gorchudd hen benglog erchyll;
Tylwyth Teg ar lawr cegin
Yn llewa aml westfa win;
Cael eu rhent ar y pentan,
A llwyr glod o bai llawr glân;[1]
Canfod braisg widdon baisgoch
A chopa cawr a chap coch;
Bwbach llwyd a marwydos
Wrth fedd yn niwedd y nos.

Rhowch i'm eich nawdd, a hawdd hyn,
Od ydwyf anghredadyn;
Coelied hen wrach, legach lorf[2]
Chwedlau hen wrach ehudlorf;
Coeliaf er hyn o'm calon,
A chred ddihoced yw hon,
Fod gwiddon, anhirionach
Ei phenpryd, yn y byd bach;
Anghenfil gwelw ddielwig,[3]
Pen isel ddelw dduddel ddig,
Draig aeldrom, dera guldrwyn,
Aych gan gas dulas i'w dwyn;
Ac o rhoe wên ddwy-en ddu,
Gwynfyd o ddrwg a ganfu;
Uwch ei gran[4] y mae pannwl,[5]
Dau lygad dali pibddall pwl;
Golwg, a syll erchyll oedd,
A gaid yn fwy nag ydoedd.
Ni wýl o ddrwg un wala;
Ni thrain[6] lle bo damwain da.
Gwynfydu bydd ganfod bai;
Llwyddiant di drwc a'i lladdai.
Gwenai o clyw oganair;
O rhoid clod, gormod y gair.

  1. Hen goel am y Tylwyth Teg.
  2. Benywaidd am lwfr.
  3. Anelwig-afluniaidd.
  4. Y rudd, neu yn hytrach asgwrn y rudd.
  5. Tolc, twll, pant.
  6. Lwybra