Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhincan y bydd yn rhonca,
Ai chrasfant, arwddant, ar dda.
Daint rhystyll,[1] hydryll, a hadl,
Genau gwenwynig anadl;
Ffy'n yd a fai ffynadwy
O chwyth ni thŷf fyth yn fwy,
Lle cerddo llesg ei hesgair,
Ni chyfyd nac ŷd na gwair.
Mae'n ei safn, hollgafn, hyllgerth,
Dafod o anorfod nerth
Difyn, a ffugfawr dafod,
Eiddil, a gwae fil ei fod;
A dwyfron ddilon dduledr,
Braen yw o glwyf ei bron gledr;
Dibaid gnofeydd duboen,
A'i nych, a chrych yw ei chroen
Gan wewyr, ni thyr, ni thau,
Eiddo arall oedd orau
Hi ni wna dda, ddera[2] ddall,
Ni erys[3] na wna arall;
Ein hamorth sy'n ei phorthi,
A'n llwydd yw ei haflwydd hi.
Merch ffel, uffernol elyn
Heddwch a dedwyddwch dyn;
A methiant dyn a'i maethodd,
O warth y bu wrth ei bodd.
E ddenwyd Adda unwaith,
O'i blas, a bu gas y gwaith;
A'i holl lwyth, o'u hesmwythyd,
Trwy hon i helbulon byd;
Llamai lle caid llygaid llawn
Dagrau diferlif digrawn.
Aml archoll i friwdoll fron,
Ac wylaw gwaed o galon;
Gwaedd o ofid goddefaint,
Wyneb cul helbul a haint;
Rho'wn ar ball, hyd y gallom,
Ddiche!l y wrach grebach grom.
Ceisiwn, yn niffyg cysur,

  1. Crib ceffyl, ebe T. Richards,
  2. Ellylles.
  3. Ni all oddef.