Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ceisiwn, yn niffyg cysur,
Ddwyn allan y gwan o gur,
A rhoddwn a wir haeddo
I fâd, pwy bynag a fo;
A'r byd, fel y gwynfyd gynt,
Dieifl i annwn diflenynt:
A Chenfigen, a'i gwenwyn,
Diffrwyth, anfad adwyth dyn;
Ddraig ffyrnig, ddrwg uffernol,
A naid i uffern yn ol.

Aed i annwfn,[1] ei dwfn dwll
Gas wiber, i gau sybwll;
A gweled, ddraig, ei gwala,
Mewn llyn heb ddifyn o dda;
Caiff ddau ddigon, a llonaid
Ei chroen, o ddu boen ddi baid.


CYWYDD I'R CALAN.
Yn y flwyddyn 1755, pan oedd glaf y BARDD yn Walton.
[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 112.]

Ow! Hen Galan, hoen gwyliau,
Cychwynbryd fy mywyd mau;[2]
On'd diddan im' gynt oeddit
Yn Ionor? Hawddamor it'!
Os bu lawen fy ngeni.
On'd teg addef hyn i ti?
Genyt y cefais gynydd
I weled awr o liw dydd;
Pa ddydd a roes im' oesi,
Trwy rad Ion ein Tad, ond ti?
Adrodd pob blwydd o'm hoedran,
O ddiwyd rif, oedd dy ran.

  1. Annwfn, ac annwn-Uffern, hades, anhysbys, lle dyeithr, the unknown region.
  2. Dengys hyn mai ar yr Hen Galan (Ionawr 12) y ganed Oronwy, ac nid ar Ionawr 1af, fel y dywedir yn yr Almanaciau