Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYWYDD Y CRYFION BYD.[1]

Pwy fal doethion farddoni,
Neu pa faint na wypwyf fi?
Os hylon a fu Selef,[2].
Mi a wn gamp mwy nac ef;
Dwys yw 'r hawl diau sy rh'om,
Bernwch uniondeb arnom;
Mynnwn gael dadl am ennyd,
A barn yn nghylch Cryfion Byd.

Tri chryf i Selyf y sydd,
Ie diriaid bedwerydd:
Llew anwar, hyll ei wyneb,
Preidiol, [3] na thry 'n ol er neb;
Milgi hirsafn, ysgafndroed,
Heb wiwiach[4] ci; a Bwch coed.
Ner trech o rwysg na 'r tri chryf,
Os holwn, fu i Selyf;
Brenin a phybyr wyneb,
Erfai, na 's wynebai neb.
Dyna, boed cof am danynt,
Ei bedwar; rhai anwar ynt.

Ni chelaf, gwn na choeliech,
Myfi a wn dri sydd drech:
O honynt dau a henwaf,
Didol un yn ol a wnaf,
O chwant caffael rhoi i chwi
Ddameg i'w hadrodd imi.

O gadarn pwy a gydiaf,
Am gryfder certh, â nerth Naf?
Nis esguswn na's gesyd
A'i gwnaeth yn bennaeth i'r byd.
Er ised oedd yr Iesu,
O inged yw Angau du!

  1. DIAR. XXX. 29.
  2. Solomon
  3. Crwydro am ysglyfaeth—Lladin, præda.
  4. Mwy gwiw-rhagorach