Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ol dial ar alon,[1]
Rhial hardd yw 'r rheol hon,
Gorsang y cyndyn gwarsyth,
Bydd wlydd[2] wrth y llonydd llyth,[3]
Milwaith am hyn y'ch molir,
A'ch galwad fydd TAD EICH TIR,[4]
Gwr odiaeth a gwaredydd,
Yn rhoi holl Ewropa'n rhydd
Ac am glod pawb a'ch dodant
Yn rhychor[5] i SIOR y Sant.


ARWYRAIN Y NENAWR

(The Garret Poem).
A wnaed yn Llundain, 1755.

CROESAW i'm diginiaw gell,
Gras Dofydd![6] gorau 'sdafell;
Golygle a gwawl eglur,
Derchafiad Offeiriad[7] ffur.
Llety i fardd gwell ytwyd
Na'r twrdd wrth y bwrdd a'r bwyd;
Mwy dy rin am ddoethineb,
Na gwahadd i neuadd neb:
Hanpwyf foddlon o honod,
Fur calch, on'd wyf falch dy fod?
Diau mai gwell y gell gu,
Ymogel na'th ddirmygu,
Nid oes, namyn difoes, da
Was taer, a'th ddiystyra;
Ai diystyr lle distaw
Wrth grochlef yr holl dref draw?
Lle mae dadwrdd gwrdd geirddad!
Rhwng puteiniad a haid hadl;

  1. Gelynion.
  2. Hynaws.
  3. Llethedig.
  4. (Parcere subjectis, et debellare superbos, Vinu. Par Pae)
  5. Yr ych fo'n cerdded y rhych wrth aredig a elwid rhychor.
  6. Duw
  7. Gwawdiaeth lem ydyw y linell hon.